Call 029 2087 xxxx

Gofynion cyfreithiol

Gofynion Cyfreithiol

Gallwch ddarganfod pa ofynion cyfreithiol y mae’n rhaid i chi eu dilyn wrth drin a gwaredu eich gwastraff.

Nodyn Trosglwyddo Gwastraff

Mae angen Nodyn Trosglwyddo Gwastraff (NTG) arnoch os yw eich gwastraff a’ch deunydd ailgylchu’n cael eu casglu gan unrhyw sefydliad, nid dim ond gan Gyngor Caerdydd.

Mae’r nodyn yn cadarnhau’n ysgrifenedig:

• y mathau o wastraff a deunydd ailgylchu y mae eich busnesau’n eu cynhyrchu,

• o le daw’r gwastraff a’r deunydd ailgylchu,

• sut mae’n cael ei gyflwyno i’w gasglu

• pwy sy’n casglu ac yn trin eich gwastraff a’ch deunydd ailgylchu.

Dylech gadw cofnod ffurfiol o’r hyn sy’n digwydd i’ch ailgylchu a’ch gwastraff gan ddefnyddio NTG. Bydd rhaid i chi a’r cariwr gwastraff cofrestredig sy’n casglu’ch sbwriel lofnodi’r NTG. Os ydych yn mynd â’ch gwastraff ac ailgylchu i safle awdurdodedig, cewch NTG ganddynt fel prawf o waredu.

Dylech gadw cofnod ffurfiol o bob NTG am o leiaf dwy flynedd.Os nad ydych chi’n dangos eich NTGau gallech:

· dderbyn dirwy o £300, neu

· eich erlyn yn y llys a chael dirwy o hyd at £5,000.

Os ydych chi’n gwaredu’ch gwastraff yn anghyfreithlon, gallech:

· gael dirwy o hyd at £50,000, neu

· eich carcharu am hyd at bum mlynedd.

Mae’r NTG hefyd yn gofyn am ddatganiad i ddweud eich bod wedi ystyried ailddefnyddio neu ailgylchu cyn penderfynu gwaredu’ch gwastraff. Gallwch ddysgu mwy am waredu a NTGau ar wefan GOV UK.

Dyletswydd Gofal Blynyddol

O dan adran 34 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, mae’n rhaid i bob busnes:

• sicrhau bod y sefydliad sy’n casglu ei wastraff wedi’i drwyddedu i wneud hynny

• cymryd camau i storio gwastraff a deunydd ailgylchu’n ddiogel fel na all achosi niwed i’r cyhoedd na’r amgylchedd

• disgrifio’r gwastraff yn ysgrifenedig gan ddefnyddio Nodyn Trosglwyddo Gwastraff os yw’n bwriadu trosglwyddo gwastraff a deunydd ailgylchu i sefydliad arall

 

Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 hefyd yn nodi, yn ôl y gyfraith, bod yn rhaid i chi:

· Feddu ar drwydded cariwr gwastraff os ydych am gludo a gwaredu’ch gwastraff eich hun. Gallwch brynu trwydded o wefan GOV.UK,

· Gwnewch yn siŵr bod pob gwastraff yn cael ei roi yn y cynwysyddion cywir (bydd hyn wedi ei nodi gan eich contractwr gwastraff a’ch NTGau). Gallech gael dirwy neu gael hysbysiad cosb os byddwch chi’n rhoi eich gwastraff allan yn y cynwysyddion anghywir.

· Rhowch eich gwastraff allan ar yr adegau priodol. Bydd eich contractwr gwastraff yn dweud wrthych pryd i roi eich gwastraff allan a phryd y bydd yn cael ei gasglu.

Gallwn eich helpu i gyflawni’r holl gyfrifoldebau cyfreithiol o ran storio a gwaredu’ch gwastraff. Mae hyn yn cynnwys eich helpu i gadw’ch dogfennaeth yn gyfredol.

Os hoffech ragor o wybodaeth am eich cyfrifoldebau cyfreithiol, cysylltwch â ni.

Dolenni defnyddiol

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd