Er mwyn cefnogi amcanion Strategaeth Ailgylchu Caerdydd i gyflawni Dinas lanach a gwyrddach, nid ydym yn cynnig sgipiau ar gyfer gwastraff cymysg cyffredinol.
Rydym yn cynnig gwasanaeth llogi sgip un ffrwd wastraff i drigolion a busnesau yng Nghaerdydd. Mae gennym ystod o sgipiau ar gael megis:
· sgipiau adeiladwyr bach, a
· sgipiau rholio mlaen/i ffwrdd mawr.
Gellir llogi’r sgipiau hyn fel gwasanaeth untro neu gallant fod yn rhan o gontract gyda chasgliadau rheolaidd.
Sgipiau Adeiladwyr
Mae’r sgipiau hyn yn addas ar gyfer prosiectau llai fel:
· adnewyddu gerddi, a
· phrosiectau Gwaith y Cartref
Mae caeadau ar gael
Efallai y byddwn yn gallu darparu sgipiau sydd o wahanol feintiau. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

6 llath giwbig
Mesuriadau 3.1m (H) x 1.7m (Ll) x 1.1m (U)

8 llath giwbig
Mesuriadau 3.4 (H) x 1.6m (Ll) x 1.6m (U)
Sgipiau Rholio
Gellir darparu’r sgipiau hyn â:
· thopiau agored,
· wedi’i hamgáu’n llawn neu
· cyfleusterau cywasgu.
Ni ellir cadw’r sgipiau hyn ar y briffordd/tir cyhoeddus. Rhaid eu storio ar dir preifat.

20 llath giwbig
Mesuriadau 5.8m (L) x 2.2m (W) x 1.2m (H)

30 llath giwbig
Mesuriadau 5.8m (L) x 2.2m (W) x 1.8m (H)

40 llath giwbig
Mesuriadau 5.8m (L) x 2.2m (W) x 2.4m (H)
Defnyddio’ch sgip
Bydd angen trwydded sgip arnoch os ydych chi am storio’ch sgip ar y briffordd. Gallwn ddarparu conau a goleuadau i chi i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel ac yn cydymffurfio â thelerau’r drwydded. Gallwch gael gwybod mwy am drwyddedau sgip ar wefan Cyngor Caerdydd.
Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch, ni ddylid llenwi sgipiau uwch law'r linell lenwi. Rhaid i chi beidio â rhoi unrhyw un o'r eitemau hyn yn y sgip:
· Caniau chwistrellu neu boteli nwy
· Asbestos
· Batris ac asidau
· Gwastraff clinigol a meddygol
· Tiwbiau fflwrolau
· Deunyddiau peryglus neu wenwynig
· Llysiau’r Dial
· Hylifau (yn cynnwys olew).
· Caniau paent, glud a thiwbiau mastig